COFNODION DRAFFT y Grŵp Trawsbleidiol ar Sipsiwn a Theithwyr: Problemau Cynllunio a wynebir gan y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr
27 Tachwedd 2013
Ystafell Briffio’r Cyfryngau
Noddwyd gan Julie Morgan AC
AGENDA
Cadeirydd: Julie Morgan AC
12:15: Croeso a chyflwyniad - Julie Morgan AC
12:15-12:35: Jeff Cuthbert AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
12:35-1:25:Cwestiynau a sylwadau o’r llawr
1:25 Cloi
· Cafwyd croeso a chyflwyniad gan Julie Morgan.
· Siaradodd Jeff Cuthbert AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, yn rhinwedd ei swydd fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am Gydraddoldeb, am y canlynol:
o Carl Sargeant AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio, sy’n ymdrin â materion cynllunio, felly caiff unrhyw faterion eu cyfeirio ato ef.
o Teithio at Ddyfodol Gwell - y ddogfen gyntaf o’i bath yn y DU. Mae’r ddogfen yn nodi cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru o ran Sipsiwn a Theithwyr.
o Mae Bil Tai (Cymru) yn cynnwys dyletswydd gyfreithiol newydd i ddarparu safleoedd pan fydd tystiolaeth amlwg am yr angen amdanynt.
o Cyfeiriwyd at y sylw digroeso yn y cyfryngau - Ysbyty Brenhinol Gwent.
o Parthed: addysg – roedd gwelliant sylweddol yn nifer y plant o blith sipsiwn a theithwyr sy’n mynd i’r ysgol, yn arbennig i ysgolion uwchradd. Mae bwlio yn fater allweddol - anogwyd pobl i nodi’r problemau.
o Mae wedi ymweld ag un o brosiectau Achub y Plant, sef Teithio Ymlaen, a chyfarfu â phlant Sipsiwn a Theithwyr. Mae addysg yn fater pwysig iddynt, a chodwyd y mater o ddelweddau negyddol o Sipsiwn a Theithwyr yn y cyfryngau.
· Cwestiynau a sylwadau o’r llawr
o Y wybodaeth ddiweddaraf am safle Rover Way. Nid oes dim llwybrau ar hyd ochr y safle ac mae lorïau’n gyrru heibio yn llawer rhy gyflym, sy’n beryglus iawn i famau a babanod sy’n mynd i glinigau. Mae’r broblem yn debygol o waethygu pan fydd y llosgydd ar waith.
o Beth fydd yn digwydd os na fydd awdurdodau lleol yn cyflawni’r gofyn arnynt i ddarparu safleoedd?
o Mae adran ar ymgysylltu yn y ddogfen ‘Teithio at Ddyfodol Gwell’, ond nid oes sefydliad yn cynrychioli Cymru gyfan i gefnogi teuluoedd sy’n Sipsiwn a Theithwyr.
o Nid yw pobl yn ymwneud digon â’r broses o gynllunio ar gyfer safleoedd; nid ydynt yn gwybod am eu hawliau.
o Y problemau o ran sefydlu safleoedd preifat ar gyfer unigolion sydd am gael llonydd yn unig i fod ar eu pennau’u hunain, ac nad ydynt am fyw ar safleoedd swyddogol. A ddylai teuluoedd unigol gael eu safleoedd eu hunain – byddent yn llai busnesgar, a gallai pobl integreiddio’n well yn y gymuned leol o bosibl?
o Asesiad o anghenion yn y Fro.
o Cymorth Cynllunio Cymru - elusen, sy’n ceisio gwneud y system gynllunio yn haws i’w deall ac yn fwy hygyrch. Gall unrhyw berson alw am gymorth ganddynt. Mae gan y mudiad wirfoddolwyr i helpu pobl. Mae angen gwell addysg a gwell gwybodaeth.
o Mae tensiynau yn Abertawe a Chasnewydd.
o Ychydig iawn o Sipsiwn a Theithwyr sydd ar y restr etholiadol, felly nid yw eu llais yn cael ei glywed. Hyd yn oed os ydynt ar y rhestr etholiadol, mae’n bosibl nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol.
o Mae llifogydd yn broblem fawr - mae Gwynllwg yn y parth llifogydd.
· Clowyd y cyfarfod gan Julie Morgan AC.